Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 28
Tachwedd 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(15 munud)
NDM6577 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2017.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad
Y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(60 munud)
NDM6578 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod entrepreneuriaeth a mentrau bach a chanolig yn allweddol i Gymru o safbwynt creu gwell swyddi a chefnogi buddsoddiad a bod gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, swyddogaeth allweddol o safbwynt creu’r amgylchedd cywir a chefnogi’r seilwaith.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn rhwydwaith o ganolbwyntiau entrepreneuraidd ym mhob rhan o Gymru.
Yn cynnig defnyddio’r cronfeydd trafodiadau ariannol newydd a ddyrannwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU i greu cronfa fuddsoddi busnesau bach a chanolig newydd ar gyfer Banc Datblygu Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu corff arloesi cenedlaethol penodedig, fel partneriaeth rhwng busnes, llywodraeth a’r byd academaidd i gynyddu lefelau datblygu o ran cynhyrchion newydd.
(60 munud)
Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y cafodd yr adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt eu rhestru yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a gytunwyd gan y Cynulliad ar 21 Tachwedd 2017.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Dileu’r ataliad dros dro presennol ar yr hawl i brynu
5, 14, 9, 11, 1, 3
2. Cyfnod diddymu
6, 13, 2
3. Gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid: gofynion ar Weinidogion Cymru
7, 8
4. Gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid: gofynion ar landlordiaid
15, 16
5. Pŵer drwy reoliadau i wneud diwygiadau canlyniadol
10
6. Y darpariaethau diddymu yn dod i rym
12, 4
Dogfennau
Ategol
Bil
Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig
(Cymru)
Memorandwm
Esboniadol
Rhestr o Welliannau wedi’u didoli
Grwpio Gwelliannau
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 29 Tachwedd 2017